Mae Salem heb ei llanw,
Rhaid cael y llwythau'n nghyd,
Pob rhyw ac iaith o bobl
O bedwar gwynt y byd;
Daw tlodion, ac efryddion,
A gwywedigion gwan,
Finteioedd heb eu rhifo,
I Seion yn y man. [WW]
O! Arglwydd, galw eto
Fyrddiynau ar dy ôl,
A dryllia'r holl gadwynau
Sy'n dal eneidiau'n ôl,
A galw hwynt o'r dwyrain,
Gorllewin, gogledd, de,
I'th eglwys yn ddiatal -
Mae digon eto o le. [DJ]
O'r nef mi glywais newydd
Fe'm cododd ar fy nhraed
Fod ffynnon wedi ei hagor
I gleifion gael iachâd;
Fy enaid, rhed yn ebrwydd,
A phaid â llwfwrhau,
O'th flaen mae drws agored
Na ddichon neb ei gau. [DW]
- - - - -
Mae Salem heb ei llanw
Mae'n rhaid cael llwythau 'nghyd,
Pob rhyw iaith a phobl
O bedwar gwynt y byd;
Daw tlodion, ac efryddion,
A gwywedigion gwan,
Yn fint'oedd heb rifedi,
I Sïon yn y mân. [WW]
O enau plant disylwedd
Na feddant rwysg na rhod,
Mewn 'chydig iawn o amser,
Perffeithia Duw ei glod;
Ei enw gaiff ogoniant,
Mawr fydd ei deyrnas e,
O'r dwyrain i'r gorllewin,
O'r gogledd hyd y de. [WW]
WW: William Williams 1717-91DJ: Dafydd Jones 1711-77 DW: Dafydd William 1720-94
Tonau [7676D]: gwelir: Ni welwn ben ein siwrnai O Arglwydd galw eto O'r nef mi glywais newydd |
Jerusalem is not yet filled,
The tribes must be got together,
Every kind of language of people
From the four winds of the world;
Poor ones shall come, and lame ones,
And weak withered ones,
Cohorts unnumbered,
To Zion soon.
O Lord, call again
Myriads after thee,
And smash all the chains
Which are holding souls back,
And call them from the east,
West, north, south,
To thy church without delay -
There is still room.
From heaven I heard news,
It raised me to my feet,
That a fount had been opened
For sick ones to get healed;
My soul, run quickly,
And do not be discouraged,
Before thee is an open door
That no-one is able to close.
- - - - -
Jerusalem is not yet filled
The tribes must be got together,
From every kind of language and people,
From the four winds of the world;
The poor ones shall come, and lame ones,
And withered weak ones,
In cohorts without number
To Zion soon.
From the mouths of disregarded children
Possessing neither power nor influence,
In very little time,
God shall perfect their praise;
His name shall get glory,
Great shall be his kingdom,
From the east to the west,
From the north as far as the south.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|